Back to Top

Y Gwydryn ‘Peint’ Cymraeg

Yn 2014 sicrhaodd Cwrw Llŷn yr hawl i gynhyrchu gwydrau peint i’w bragdy – gyda’r marc PEINT (yn hytrach na PINT) arnynt fel arwydd o fesur cyhoeddus. Bu’n ddwy flynedd o frwydr yn erbyn swyddfeydd Safonau Masnach Gwledydd Prydain a’r Swyddfa Fesur Genedlaethol yn Llundain gan nad yw’r maes hwn wedi’i ddatganoli ac felly yn mynnu ei fod wedi’i eithrio o amodau Deddf yr Iaith Gymraeg 2011.

 

 

Cafwyd ‘Na’ cadarn i’r cais cyntaf i ddefnyddio Cymraeg ar wydrau peint. Sail y swyddfeydd Seisnig dros wrthod oedd bod deddfwriaeth Ewropeaidd yn mynnu mai’r Saesneg oedd yn cael ei defnyddio i ddangos mesuriadau. Cysylltodd y bragdy â Chomisiynydd y Gymraeg ac wedi chwilota cyfreithiol manwl, gwelwyd nad Ewrop oedd yn mynnu’r defnydd o Saesneg – deddf Lundeinig oedd yn hawlio hynny. Ceisiwyd apelio am statws cyfartal i’r Gymraeg ond honnai’r swyddog nad oedd y deddfau iaith diweddar yng Nghymru yn caniatau tanseilio gair ‘Saesneg’ gyda gair Cymraeg. Roedd y PEINT mae’n debyg yn fygythiad i’r PINT!


Ceisiodd Cwrw Llŷn ddadlau bod defnyddio’r Gymraeg yn rhan o ‘frand’ cynnyrch Cymreig ac yn cyfoethogi eu hapêl a bod deddfau Llundain yn tanseilio masnach yng Nghymru. Newidiodd y swyddfa natur eu gwrthwynebiad yn Chwefror 2013 – byddai defnyddio PEINT, meddent, yn gallu camarwain unigolion nad oeddent yn deall Cymraeg.


Sawl peint y byddai’n rhaid i’r cyhoedd ei yfed cyn y byddent yn rhy ddryslyd i ddeall eu bod yn yfed peintiau? Dim ateb.


Bu Llundain yn defnyddio dadleuon treftadaeth a hanes wrth amddiffyn y peint rhag cael ei ddisodli gan y litr cyfandirol. Does bosib mai estyniad o’r un ddadl dreftadaeth oedd cais Cwrw Llŷn i ddefnyddio’r Gymraeg? Yn y diwedd, wrth atgoffa’r Britocrats bod 2014 yn flwyddyn pleidlais annibyniaeth yr Alban ac y byddai’n dda iddynt gael eu gweld yn rhoi mwy o degwch i ddiwylliannau heblaw’r un Saesneg, cafodd y bragdy yr hawl i ddefnyddio PEINT heb ddefnyddio’r Saesneg, dim ond ychweanegu’r talfyriad Cymraeg a rhyngwladol ‘pt’ oddi tano. Mae’r gwydrau ar werth yn siop y bragdy.