amdanom ni

Sgwrs dros beint rhwng criw o ffrindiau yn trafod yr angen am fragdy lleol yn rhoi stamp yr ardal ar ddiod oedd man cychwyn Cwrw Llyn.

 

Yn wahanol i ambell sgwrs dros beint, mi wnaeth honno ddwyn ffrwyth! Trodd y freuddwyd yn weledigaeth gliriach a chymerwyd y camau cyntaf. Gyda deuddeg cyfarwyddwr oedd yn fodlon torchi’u llewys i wneud y gwaith, addaswyd adeilad a chynhyrchwyd y cwrw casgen cyntaf yn 2011.

Treftadaeth Llŷn ydi’r ysgogiad y tu ôl i’r fenter, y cynnyrch a’r enwau a’r straeon sy’n cael eu plethu drwy’i gilydd yn y bragdy. Iechyd da i’r lle hynod hwn, ei Gymreictod, ei gymdeithas a’i olygfeydd ysblennydd dros dir a môr.

 

Er bod y deuddeg ohonom yn dod o gefndiroedd amrywiol, mae cydweithio a chydrannu profiad wedi bod yn fanteisiol i lwyddiant y prosiect. Rydym yn cynnwys ffermwyr, seiri, cynhyrchydd caws, argraffydd a chyhoeddwr, cyfrifydd, gweithiwr cymdeithasol a masnachwyr. Mewn undod mae nerth, does dim dwywaith.

Hen feudy wedi’i addasu yng nghanol gwlad Llŷn oedd cartref cyntaf y bragdy. Chwe chasgen yr wythnos oedd uchafswm y cynnyrch, ac o fewn chwe mis bu’n rhaid cymryd cam ymlaen gan fod cymaint o alw. Symudwyd i hen ffatri yn Ionawr 2012 gan ddefnyddio offer mwy ac yna ym Mai 2015, agorwyd ein bragdy newydd sbon yn Nefyn gyda’i offer pwrpasol.

 

Bragu â llaw, ychydig ar y tro, yw’r dull yn Cwrw Llŷn – mae hynny’n sicrhau rheolaeth dros yr ansawdd a chysondeb. Fel arfer, byddwn yn bragu tua 180 ffercin yr wythnos. Mae cadwraeth ac ôl-troed carbon yn cyfri yma a byddwn yn ailddefnyddio ac ailgylchu hyd eithaf ein gallu. Aiff soeg yr haidd i borthi moch lleol a gwneir compost o weddillion yr hopys.

Mae ein cwrw yn cael eu hysbrydoli gan y bobl, y mannau a'r pethau yr ydym yn eu caru fwyaf am y gornel hardd hon o Ogledd Cymru.

CYNHYRCHWYD EIN CWRW CYNTAF YNG NGHANOL CEFN GWLAD LLYN GAN DDEFNYDDIO OFFER BRAGU AIL LAW MEWN HEN FEUDY.