Mae ein cwrw yn cael eu hysbrydoli gan y bobl, y mannau a'r pethau yr ydym yn eu caru fwyaf am y gornel hardd hon o Ogledd Cymru.

Teithiau Bragdy

Dewch am dro o amgylch y bragdy. Rydym wrth ein bodd yn cael ymwelwyr yma a chael rhannu rhai o gyfrinachau Cwrw Llyn.

 

Dyma’r ffordd i gael gwybod am ein hanes a dysgu am gamau’r broses o fragu. Mwynhewch yr arogleuon, y blasau a’r hyn sydd i’w weld a’i glywed yn ein bragdy cyn blasu’r cynnyrch yn y Bar Bragdy.

 

Taith yn cynnwys:

• Croeso i Cwrw Llŷn gan un o’r bragwyr
• Ffilm fer yn olrhain yr hanes hyd yn hyn
• Cyflwyniad i’r gwahanol gwrw a’r technegau bragu
• Sesiwn flasu yn Bar y Bragdy

 

Mae’n hyfryd croesawu ymwelwyr yma o bob rhan o’r byd. Cymraeg neu Saesneg ydi iaith y cyflwyniadau, ond mae’r ffilm fer ar gael i’w gwylio yn Gymraeg, Saesneg, Ffrangeg, Iseldireg, Almaeneg, Sbaeneg neu Bwyleg.

 

Mae adnoddau i ddefnyddwyr cadair olwyn yn yr adeilad. Rhowch wybod inni os oes gennych anghenion arbennig y gallwn gynig cymorth ar eu cyfer os gwelwch yn dda.

Gwybodaeth am y teithiau

 

Ar gael: Dydd Llun – Dydd Sadwrn, Hanner dydd hyd 5 y pnawn
Hyd: tua 45 munud
Cost: £7 oedolion / £4 dan 18 a phensiynwyr
Parcio: rhad ac am ddim
Bwcio ymlaen llaw: hanfodol

 

Bwcio taith: ebostiwch post@cwrwllyn.cymru neu rhowch alwad ar 01758 721981

Archebwch eich taith trwy e-bostio
post@cwrwllyn.cymru neu ffonio 01758 721981