Bragu â llaw, ychydig ar y tro, yw'r dull yn Cwrw Llŷn – mae hynny'n sicrhau rheolaeth dros yr ansawdd a chysondeb. Fel arfer, byddwn yn bragu tua 180 ffercin yr wythnos. Mae cadwraeth ac ôl-troed carbon yn cyfri yma a byddwn yn ailddefnyddio ac ailgylchu hyd eithaf ein gallu. Aiff soeg yr haidd i borthi moch lleol a gwneir compost o weddillion yr hopys.
Mae gennym rhyw bedwar cwrw casgen ar dap yn y bar bach, yn ôl beth sydd ar gael yn y seler. Yno hefyd mae'n cwrw potel ac ambell frag tymhorol y byddwn yn ei fragu o dro i dro.
Ar dywydd teg – ac yn Llŷn, gall hynny gynnwys y gaeaf! – does dim yn well na mwynhau haul y pnawn, golygfeydd y ddwy Garn, a glasiad o Gwrw Llŷn. Mae'r Bar yn agored i ymwelwyr o ddydd Llun hyd ddydd Sadwrn o hanner dydd hyd 5 y pnawn, ac ar gael hefyd i'w logi ar gyfer digwyddiadau gyda'r nos.