Ym mynwent eglwys Edern, ychydig pellach i’r gorllewin na’r bragdy, mae llun penglog ac esgyrn croes i’w canfod ar garreg fedd. Mae hanes morwrol hir a chyffrous i’r arfordir hwn a bu yma smyglwyr a morladron yn llochesu yn eu tro. Mae’n cwrw ‘coch’ yn cofio am Barti Ddu, y morleidr cyntaf i arddel baner y benglog a’r esgyrn croes. Roedd yn hoff o ddillad crand – gwasgod goch yn arbennig. Y ‘jolie rouge’ oedd enw’r Ffrancwyr arno, ac o hynny y tarddodd y Jolly Roger.