Mae pob plentyn yng Nghymru wedi clywed am y Cantref ffrwythlon a foddwyd dan donnau’r môr lle mae Bae Ceredigion heddiw. Seithenyn oedd dihiryn y chwedl, wrth gwrs, yn esgeuluso’i gyfrifoldeb ar noson fawr priodas y dywysoges. Ond mae olion hen goed 6000 o flynyddoedd oed ar rai o draethau Llŷn yn awgrymu nad stori dylwyth teg ydi’r sôn yma am lefel y môr yn codi…