CYFLENWYR

Mae cynnyrch Cwrw Llyn ar gael mewn casgenni neu boteli ac yn cael eu gweini mewn tafarndai, tai bwyta, gwestai a bariau yn Llyn, Môn ac ardal Eryri ac mewn nifer o sefydliadau eraill drwy Gymru. Mae’r cynnyrch yn rhan o frand arbennig sydd wedi’i greu gan Gwrw Crefft Cymru – brand sy’n prysur wneud enw iddo’i hun ledled y byd.

 

Mae’n poteli ar gael hefyd mewn siopau ym mhob rhan o Gymru, dros y ffin yn Lloegr a hyd yn oed ar gyfandir Ewrop. Os ydych am fod yn gyflenwr inni, rhowch ganiad inni os gwelwch yn dda: 07823 320148 neu ebostiwchpost@cwrwllyn.cymru

Brewery Tour banner