PORTH NEIGWL

 

steil | IPA

 

IPA yn arddull y Byd Newydd sy’n dathlu 3,500 o flynyddoedd o fragu ym Mhorth Neigwl.

Drafft: 4.5% ABV

Potel: 5% ABV

 

I ddathlu Gŵyl y Cwrw Cyntefig yn 2014, aethom ati i ail-greu cymeriad unigryw a fyddai wedi perthyn i fragdy Oes Efydd Porth Neigwl. Roedd y fersiwn honno yn cynnwys blodau’r eithin i ychwanegu blas a burum i’r brag. Ers hynny rydym wedi meithrin cymeriad siarp a hynod flasus i’r cwrw drwy ddethol hopys yn arddull IPA y Byd Newydd.

Brewery Tour banner