Cwrw golau a llawn blas i ddathlu caneuon hafaidd a hapus yr athrylith Meic Stevens.
DRAFFT: 3.8% ABV
Potel: 4% ABV
Dyma un o ganeuon mwyaf poblogaidd Meic Stevens – baledwr y mae ganddo le cynes iawn yng nghalonnau cynulleidfaoedd Llŷn. Cân y tywydd braf a hwyl yr haf ydi hi, ac fel llawer o ganeuon Meic, mae’n gweddu yma ar lannau môr y gorllewin.